FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Swyddi Gwag |
Mae’r holl swyddi allanol ar gael i unrhyw berson â chymwysterau addas.
Pan fydd swydd yn cael ei hysbysebu, darperir Swydd-ddisgrifiad a Manyleb Person. Mae’r Fanyleb Person yn cynnwys rhestr o gymwysterau a sgiliau yr ystyrir eu bod yn hanfodol i ymgymryd â’r rôl.
Mae’r Coleg yn mynnu bod yr holl ymgeiswyr allanol yn llenwi Ffurflen Gais. Mae hyn yn rhoi’r wybodaeth am ymgeiswyr i ni mewn ffordd gyson, sy’n helpu i safoni’r prosesau llunio rhestr fer a chyfweld. Yn bwysicach, mae hefyd yn ein galluogi i gyflawni ein rhwymedigaethau statudol i fonitro rhyw, tarddiad ethnig, ac ati, yr holl ymgeiswyr.
Naill ai drwy glicio’r botwm "Ymgeisio Ar-lein" i’r dde o’r swydd wag er mwyn defnyddio ein ffurflen gais ar-lein, neu drwy glicio’r ddolen “Ffurflen Gais” oddi tanodd. Os byddwch yn profi unrhyw broblemau gyda’r naill neu’r llall o’r rhain, gallwch e-bostio jobs@nptc.ac.uk neu ffonio 01639 648031.
Mae gan y Coleg ystod o offer cyflwyno. Cysylltwch â’r Uned Adnoddau Dynol i drafod yr opsiynau sydd ar gael a sicrhau y darperir y cyfleusterau sydd arnoch eu hangen, cyn diwrnod y cyfweliad.