DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
Application Process
Swyddi Gwag

Y Broses Ymgeisio

 

Hysbysebu

 

Mae Coleg Castell-nedd Port Talbot yn weithredol wrth hybu cyfle cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned. Drwy ddefnyddio dulliau amrywiol o hysbysebu swyddi, mae’r Coleg yn teimlo ei fod mewn gwell sefyllfa i ddenu ystod eang o ymgeiswyr sydd â’r sgiliau / cymwysterau perthnasol. Yn allanol, gosodir hysbysebion yn y ganolfan waith leol bob amser ac fel arfer yn y wasg leol ac ar y wefan hon. Mae hysbysebion bob amser yn cael eu hysbysebu’n fewnol er mwyn sicrhau hygyrchedd.

 

Ymgeisio am swydd wag

 

Gall ymgeiswyr:

  • Ymgeisio ar-lein drwy glicio ar y botwm i’r dde o’r swydd a hysbysebwyd;
  • Lawrlwytho ffurflen gais a’i dychwelyd at:

      Y Swyddog Recriwtio a Dethol
      Uned Adnoddau Dynol
      Coleg Castell-nedd Port Talbot
      Heol Dŵr-y-Felin
      Castell-nedd
      SA10 7RF

  • E-bostio jobs@nptc.ac.uk i ofyn am ffurflen gais, gan ddyfynnu teitl y swydd berthnasol a’r cyfeirnod
  • Ffonio 01639 648031 i ofyn am ffurflen gais, gan ddyfynnu teitl y swydd berthnasol a’r cyfeirnod

        

Llunio rhestr fer

 

Ar ôl y dyddiad cau, anfonir y ceisiadau i’r adran berthnasol er mwyn llunio rhestr fer. Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf a gyhoeddwyd. Gwahoddir yr ymgeiswyr hynny sy’n bodloni’r meini prawf orau i gyfweliad.

 

Geirdaon

 

Gofynnir am ddau eirda ar gyfer pob ymgeisydd gan ddefnyddio llythyr cais am eirda safonol. Gellid oedi penodiadau tra’n disgwyl derbyn geirdaon. Mae’r holl benodiadau yn amodol ar dderbyn geirdaon boddhaol.

 

Cynnig cyflogaeth

 

Bydd yr Uned Adnoddau Dynol yn anfon cadarnhad ysgrifenedig at ymgeiswyr aflwyddiannus a llwyddiannus. Anfonir llythyr penodi at yr ymgeisydd llwyddiannus yn manylu ar y telerau cyflogaeth, ynghyd â’r holl lenyddiaeth berthnasol arall, e.e. ffurflen bensiwn, gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol, holiadur iechyd, atodiad diogelu data.