DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
Specialised Training Facilities
Astudio yn CCNPT

Cyfleusterau Hyfforddi Arbenigol

 

Er mwyn creu amgylcheddau gwaith realistig i ddysgwyr, darperir unedau arbenigol ar gyfer sawl cwrs galwedigaethol y gall yr holl fyfyrwyr elwa ohonynt. Mae’r rhain yn cynnwys:

 

Hairfax/Facefax

Mae salonau trin gwallt a harddwch masnachol y Coleg wedi’u lleoli ar Gampws Afan. Maent yn agored i holl ddysgwyr y Coleg ac aelodau o’r cyhoedd ac maent yn cynnig ystod eang o driniaethau gwallt a harddwch gydag ymgynghoriadau am ddim. Mae gostyngiad o hyd at 20% hefyd i ddysgwyr a staff ar yr holl brosesau.

 

Canolfan Arddio Hyfforddeion

Wedi’i lleoli mewn 11 erw o goetir cymysg a gerddi addurnol o amgylch Tŷ Twyn yr Hydd, ym Mharc Gwledig Margam, y mae canolfan hyfforddi ar gyfer dysgwyr garddwriaeth. Mae hefyd planhigfa fasnachol, sy’n gwerthu ystod fawr o gynnyrch, wedi’i lleoli yn Nhwyn yr Hydd ac ar Gampws Castell-nedd.

 

Siop Fara

Yn gwerthu bara a theisennod sy’n cael eu paratoi a’u pobi’n ffres ar Gampws Castell-nedd gan ddysgwyr pobi.

 

Cyfleusterau Chwaraeon

Mae gan y Coleg gyfleusterau chwaraeon helaeth, gan gynnwys cyfleusterau dan do ar gampws Academi Chwaraeon Llandarsi, sy’n cynnwys cyfleuster hyfforddi dan do amlbwrpas, labordy profion chwaraeon, ystafell ffisio, swît ffitrwydd o’r radd flaenaf ac ystafell gyfrifiaduron. Mae cyfleusterau ar gael hefyd ar gampws Castell-nedd, sy’n cynnwys maes / cwrtiau ar gyfer amrywiaeth o gemau tîm, yn ogystal â maes pob tywydd.

 

Gweithdai Peirianneg ac Adeiladu

Mae gan y Coleg weithdai pwrpasol lle gall dysgwyr weithio ar beiriannau ac offer modern.

 

Gweithdai Cerbydau Modur

Mae gan ddysgwyr gyfle i weithio ar gerbydau er mwyn gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth.

 

Bwyty Blasus

Mae dysgwyr yn paratoi ac yn gweini prydau i safon uchel iawn. Mae’r Coleg yn agored i’r cyhoedd, ac mae’n gweini ciniawau a phrydau’r hwyr.

 

Stiwdio Recordio / Label Recordiau

Mae dysgwyr a bandiau lleol / y coleg yn ymarfer ac yn recordio cerddoriaeth.

Specialised Training FacilitiesSpecialised Training FacilitiesSpecialised Training Facilities