FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Astudio yn CCNPT |
Mae cynllun ysgoloriaethau CCNPT yn bwriadu cynorthwyo dysgwyr â gallu academaidd, chwaraeon neu ddiwylliannol uchel i ddatblygu’r doniau hyn i’w llawn botensial. Gall ymgeiswyr am ysgoloriaeth fod yn dilyn unrhyw gwrs yn y Coleg, fodd bynnag, mae’n rhaid iddynt ddangos dawn eithriadol ac mae’n rhaid iddynt fod yn barod i gynrychioli’r Coleg mewn gweithgareddau perthnasol, e.e. digwyddiadau / twrnameintiau chwaraeon neu sioeau / perfformiadau diwylliannol. Cynigir amgylchedd cefnogol i enillwyr ysgoloriaethau, lle gallant gyrchu cymorth a chyfarwyddyd i hwyluso cyd-ddatblygiad eu sgiliau academaidd, chwaraeon neu ddiwylliannol a’u prif astudiaethau Coleg.
Gwerth yr ysgoloriaeth ar hyn o bryd yw £500 y flwyddyn. Gall unrhyw fyfyrwyr sy’n dymuno ymgeisio am ysgoloriaeth gael ffurflen gais oddi wrth Dderbyniadau.
