FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Astudio yn CCNPT |
Rydym yn annog ein holl fyfyrwyr i anelu’n uchel, a rhoddir cymorth a chefnogaeth i’r rheini sy’n anelu at Rydychen / Caergrawnt drwy ein rhaglen Rhydychen / Caergrawnt bwrpasol, sy’n cael ei rhedeg gan uwch staff y coleg. Trefnir ymweliadau arbennig â Rhydychen / Caergrawnt, sy’n cynnwys aros dros nos fel arfer, ar gyfer darpar ymgeiswyr Rhydychen / Caergrawnt ac mae’r myfyrwyr yn derbyn cyngor a chyfarwyddyd ar y broses ymgeisio oddi wrth Diwtoriaid Derbyn y Prifysgolion. Mae gan ddarpar ymgeiswyr Rhydychen / Caergrawnt gyfle hefyd i astudio Safon Uwch Gyfrannol Meddwl Beirniadol fel cymhwyster ychwanegol. Mae dysgwyr sydd wedi llwyddo i ennill lleoedd yn Rhydychen neu Gaergrawnt yn aml yn dychwelyd i’r Coleg i fentora’r rheini sy’n ymgeisio.
