FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Astudio yn CCNPT |
Mae dod i Goleg Castell-nedd Port Talbot yn golygu ehangu eich potensial, cwrdd â phobl newydd, archwilio amgylchedd newydd a’ch mwynhau eich hun. Rydym yn Goleg dynamig, sy’n datblygu ac yn gwella’r ffordd rydym ni’n gweithio yn barhaus er mwyn rhoi’r cyfle gorau i chi ragori yn eich maes astudio dewisedig.
Pa gwrs bynnag y byddwch yn ymrestru arno, gallwch ddisgwyl amrywiaeth o brofiadau gwerthfawr yn ystod eich astudiaethau yn y Coleg. Mae nifer o’r rhaglenni astudio a gynigir yn cynnwys myfyrwyr yn mynd ar ymweliadau addysgol â rhannau eraill o’r DU a thramor. Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys myfyrwyr Arlwyo yn mynychu arddangosfa Hotelympia a gynhaliwyd yn Earls Court (Llundain) a myfyrwyr Peirianneg / Cerbydau Modur yn gweithio yn ffatri Audi yn Heilbronn (yr Almaen).
Mae gan Gampysau Castell-nedd ac Afan Ganolfannau Adnoddau Dysgu helaeth, sy’n cynnwys prif lyfrgell, mannau astudio tawel a chyfleusterau TG. Mae’r rhain yn gartref i ddewis eang o lyfrau, cyfnodolion, cylchgronau, papurau newydd, gwybodaeth Ewropeaidd ac maent hefyd yn cynnwys cyfleusterau llun-gopïo.
Mae Sgiliau Allweddol Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a TG mor bwysig fel y disgwylir i’r holl fyfyrwyr bellach ennill cymwysterau yn y meysydd hyn yn ystod eu hamser yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot. Pa un a ydych yn disgwyl mynd ymlaen i’r brifysgol neu’n syth i mewn i swydd, mae’r gallu i gyfathrebu’n dda, ymdeimlo’n dda ag eraill, bod yn gyfathrebwr da ac yn ddatryswr problemau i gyd yn briodoleddau pwysig a hanfodol a fydd yn eich cynorthwyo yn eich datblygiad personol.
Mae’r Coleg yn falch o’i lwyddiant academaidd, chwaraeon a diwylliannol. Mae nifer o fyfyrwyr unigol a grwpiau o fyfyrwyr wedi ennill gwobrau neu gynrychioli Cymru neu Brydain Fawr mewn ystod o weithgareddau, gan gynnwys:- Garddwriaeth, Arlwyo, Peirianneg, y Celfyddydau Perfformio, Busnes a nifer o wahanol chwaraeon ar lefel Ranbarthol, Genedlaethol (DU) ac Ewropeaidd.
Mae’r myfyrwyr yn cyflawni canlyniadau mewn arholiadau terfynol sydd uwchlaw’r cyfartaleddau cenedlaethol yn gyson.