DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
Glan-yr-Afon Arts Centre
Astudio yn CCNPT

Canolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon

 

Yn ddiweddar, agorwyd canolfan newydd y celfyddydau perfformio gwerth £2 filiwn ar Gampws Castell-nedd ac mae’n cynnwys theatr bwrpasol gydag awditoriwm â 170 o seddau. Ymhlith y nodweddion eraill y mae sgrîn sinema, offer goleuo a sain manyleb uchel a thŵr crog ag offer hedfan o’r radd flaenaf.

 

Mae Canolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer myfyrwyr drama, dawns, theatr gerdd a pherfformiad cerddorol, ac mae’n gartref i ddwy stiwdio amlbwrpas gyfarparedig ar gyfer sesiynau perfformio ymarferol. Mae adran y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio (CGPh) yn llwyfannu sioeau yn y Ganolfan Gelfyddydau yn rheolaidd, ac mae hefyd yn defnyddio’r lle i arddangos gwaith celf a dylunio, yn ogystal â ffotograffiaeth a gwaith amlgyfrwng. Gwiriwch ein hysbysfwrdd CGPh am restr o ddigwyddiadau / arddangosfeydd presennol.

 

Mae’r Ganolfan Gelfyddydau ar gael i’w llogi am gost. Cysylltwch â Vicky Burroughs ar victoria.burroughs@nptc.ac.uk am wybodaeth bellach ac i wirio argaeledd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Glan-yr-Afon Arts Centre