DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
Diversity
Astudio yn CCNPT

Amrywiaeth

 

Mae CCNPT yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn darparu coleg ac amgylchedd sy’n groesawgar a hygyrch i bawb. Ein nod yw cynnig darpariaeth gynhwysfawr sy’n gynhwysol heb ystyried rhyw, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, cred grefyddol neu ethnigrwydd. Er mwyn cyrraedd y nod hwn a chyflawni ein rhwymedigaethau statudol, mae gennym ystod o bolisïau a chynlluniau yn eu lle y gallwch eu cyrchu drwy ddefnyddio’r dolenni isod. Cysylltwch â’r coleg os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â mynediad a chyfleusterau, neu os oes gennych gwestiwn neu sylw ynglŷn â’n cynlluniau a’n cyhoeddiadau eraill.

 

Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi, digwyddiadau codi ymwybyddiaeth, dosbarthiadau Addysg a Arweinir gan Gyfoedion a sesiynau galw heibio. Bydd yr holl ddigwyddiadau yn cael eu postio ar hysbysfwrdd y Coleg ac mae croeso i chi gysylltu â ni ar unrhyw adeg i gael manylion pellach ynglyn ag unrhyw un ohonynt.

 

Mae ein Grŵp Rhanddeiliaid yn groestoriad o bobl sydd â diddordeb mewn un neu ragor o feysydd amrywiaeth ac sy’n cyfrannu at ein gwaith drwy gydol y flwyddyn, boed hynny drwy fynychu digwyddiadau, gwneud sylwadau ar ein cynlluniau neu’n cynlluniau gweithredu, rhoi adborth manwl ar ein gwaith neu drwy gefnogi sesiynau codi ymwybyddiaeth.

 

Ni fydd angen gwybodaeth neu brofiad arbenigol ar aelodau’r grŵp ac ni fydd angen iddynt wneud ymrwymiad amser rheolaidd i’r grŵp. Brwdfrydedd a diddordeb yw’r ffactorau pwysicaf er mwyn cyfranogi’n llwyddiannus. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r grŵp, rhowch wybod i ni.

 

Rydym yn ystyried ffyrdd o wella’r addysg a’r gwasanaethau eraill rydym ni’n eu darparu yn gyson, yn enwedig mewn perthynas â materion amrywiaeth, ac rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu awgrymiadau gan ddysgwyr, rhieni neu ofalwyr, staff, partneriaid ac aelodau o’r gymuned.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r uchod, cysylltwch â’r Swyddog Amrywiaeth, Lesley Blower, ar 01639 648175 neu lesley.blower@nptc.ac.uk