FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Ysgolion |
Mae’r Ysgol yn cynnig ystod o 16 pwnc Safon Uwch ar draws Campysau Castell-nedd ac Afan. Mae’r pynciau yn cynnwys Cyfrifyddu, Astudiaethau Cyfathrebu, Economeg, Iaith Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Hanes, y Gyfraith, Seicoleg, Astudiaethau Crefyddol, Cymdeithaseg, Sbaeneg a Chymraeg.
Yn ogystal â chyrsiau Safon Uwch, gall ein myfyrwyr hefyd astudio Cymhwyster Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru. Mae’r Coleg yn falch o fod yn un o’r garfan gyntaf o ganolfannau peilot a gymeradwywyd i gyflenwi’r cymhwyster cyffrous newydd hwn, lle mae’r myfyrwyr yn cael cyfle i ehangu eu rhaglen astudio Safon Uwch – nodwedd a groesewir gan gyflogwyr a phrifysgolion.
Cyflenwir y cyrsiau gan staff profiadol, gan gynnwys arholwyr Safon Uwch ar draws nifer o bynciau. Cafwyd buddsoddiad sylweddol mewn adnoddau addysgu, gan gynnwys byrddau gwyn electronig, sy’n galluogi dulliau addysgu o’r radd flaenaf. Mae ein labordai iaith yn meddu ar yr offer diweddaraf ar gyfer addysgu ieithoedd a chafwyd eu bod yn boblogaidd iawn ymhlith y myfyrwyr. Mae myfyrwyr ieithoedd hefyd yn cael cymorth ychwanegol gan gynorthwywyr sy’n siaradwyr brodorol.
Mae’r canlyniadau arholiadau ymhlith y gorau yng Nghymru ac, yn y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â’r canlyniadau cyffredinol, mae myfyrwyr unigol wedi ennill cyflawniadau gwirioneddol eithriadol, gan gynnwys 5 a 6 gradd A ar Safon Uwch, a arweiniodd at fynd ymlaen i Brifysgol Rhydychen. Mae ein myfyrwyr yn elwa o raglen gymorth Rhydychen / Caergrawnt, sy’n cynnwys ymweliadau â Rhydychen, ynghyd â chyngor ar gyfweliadau gan fyfyrwyr presennol yn Rhydychen. Mae’r ymweliadau â Rhydychen yn ddigwyddiad blynyddol sefydledig ac rydym bob amser yn edrych ymlaen at gwrdd â’n cyn-fyfyrwyr.
Mae’r cymorth i fyfyrwyr heb ei ail, a neilltuir tiwtor personol ar gyfer yr holl fyfyrwyr, y maent yn cwrdd ag ef/hi am o leiaf awr a hanner bob wythnos drwy gydol blwyddyn gyntaf eu hastudiaethau. Yn ystod yr ail flwyddyn, mae cymorth wrth ymgeisio am y brifysgol yn brif flaenoriaeth a derbynnir ein myfyrwyr yn y prifysgolion gorau yn Lloegr a Chymru yn gyson.
Mae’r Ysgol Astudiaethau Cymdeithasol ac Ieithoedd yn ymfalchïo yn ei chanlyniadau arholiadau eithriadol, diwylliant cyfeillgar a chefnogol a ffocws ar anghenion myfyrwyr. Mae’n darparu amgylchedd cyfeillgar a gofalgar, gyda disgwyliadau uchel bob amser.