FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Ysgolion |
Mae’r Ysgol Astudiaethau Cynalwedigaethol yn cyflenwi cyrsiau sydd wedi’u teilwra’n benodol i ddiwallu anghenion y rheini ag anawsterau dysgu a/neu anableddau ar Lefel Cyn Mynediad a Mynediad. Nodau’r cyrsiau o fewn yr adran yw caniatáu i’r dysgwyr ddatblygu fel unigolion a symud ymlaen i lwybrau astudiaeth, hyfforddiant neu waith pellach.
Mae’r cyrsiau yn amrywio o sgiliau byw’n annibynnol sylfaenol i gymwysterau NVQ penodol ac maent yn cynnwys samplu galwedigaethol fel paratoad ar gyfer y byd gwaith.
Mae’r Ysgol yn darparu ar gyfer ystod o ddysgwyr, amser llawn a rhan amser. Mae hyn yn cynnwys y rheini sy’n gadael yr ysgol y mae angen iddynt ddatblygu eu sgiliau byw’n annibynnol fel y gallant fod yn hunanddibynnol, dod o hyd i lwybr galwedigaethol addas, datblygu hyder a sgiliau cymdeithasol personol. Ar yr un pryd, mae’r holl gyrsiau yn cynnig cyfle i wella sgiliau sylfaenol ac allweddol er mwyn i’r dysgwyr gyflawni eu gwir botensial mewn bywyd.
Cynhelir cyrsiau ar gyfer y rheini dros 19 oed ac maent yn amrywio o gyrsiau NVQ penodol ym meysydd Arlwyo, Trin Gwallt a Garddwriaeth, yn ogystal â pharatoad ar gyfer cyrsiau seiliedig ar waith, datblygiad cymdeithasol a chyflenwi rhaglenni o ansawdd i ganolfannau Allgymorth Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae’r Ysgol Astudiaethau Cynalwedigaethol yn darparu ar gyfer ystod amrywiol o fyfyrwyr, gan gynnwys y rheini â nam ar eu synhwyrau; nam corfforol; anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD); anawsterau dysgu ysgafn / cymedrol / difrifol; y rheini y mae angen iddynt ennill y sgiliau cymdeithasol angenrheidiol er mwyn cael eu derbyn yn y gymuned a’r byd gwaith. Efallai y bydd rhai o’n dysgwyr angen amser i aeddfedu a chynyddu mewn hyder a hunan-barch yn unig, ac mae’r Ysgol yn cynnig yr amgylchedd a’r amgylchiadau i wneud hynny heb fygythiad ar Gampysau Castell-nedd ac Afan.
Mae’r staff yn athrawon cymwys, profiadol y mae ganddynt sgiliau arbenigol er mwyn cyflenwi’r cyrsiau hyn. Cynorthwyir y staff addysgu a’r myfyrwyr gan dîm o Gynorthwywyr Cymorth Dysgu sy’n diwallu anghenion pob dydd y dysgwyr.
Ethos yr Ysgol yw cynnig cyfle cyfartal i’r holl ddysgwyr heb ystyried unrhyw anabledd a allai fod ganddynt ac mae’n bwriadu sicrhau’r lefel uchaf o lwyddiant ar gyfer y dysgwyr hyn er mwyn gwella ansawdd eu bywydau yn y dyfodol. Mae’r Ysgol wedi llwyddo i gyflawni hyn dros y degawdau y bu’n gweithredu, a adlewyrchir yn llwyddiant y dysgwyr yn academaidd, yn gymdeithasol ac mewn chwaraeon.
Adlewyrchir ansawdd yr addysgu a’r dysgu yn yr Ysgol yn y Radd 1 a ddyfarnwyd yn ystod Arolygiad Estyn.