DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
School of Horticulture, Hairdressing & Beauty
Ysgolion

Yr Ysgol Garddwriaeth, Trin Gwallt a Harddwch

 

Trosolwg

Mae’r Ysgol Garddwriaeth, Trin Gwallt a Therapi Harddwch (GTGH) yn rhan o’r Gyfadran Busnes, TG a Chwaraeon. Mae’r ysgol yn cynnig cyrsiau NVQ a chyrsiau galwedigaethol i fyfyrwyr heb ystyried oedran, gallu a chefndir.

 

Adeiladau

Mae’r ysgol wedi’i lleoli ar 3 safle. Mae Trin Gwallt a Harddwch wedi’u lleoli ar Gampws Afan, tra bod Garddwriaeth ar Gampws Castell-nedd ac o fewn tiroedd Tŷ Twyn yr Hydd, sydd wedi’i leoli ym Mharc Gwledig Margam.

 

Hairdressing and Beauty Therapy

Mae’r rhain yn cynnwys prif dderbynfa, fferyllfa, 3 salon harddwch, 2 salon trin gwallt, a salon amlswyddogaeth sy’n gwasanaethu trin gwallt a thechnoleg ewinedd. Mae’r holl salonau yn cael eu rhedeg fel mentrau masnachol, ac mae’r myfyrwyr yn gweithio ar gleientiaid. Cynigir ystod eang o driniaethau Therapi Harddwch, gan amrywio o drin dwylo i estyniadau ewinedd acrylig, tylino’r corff i driniaethau ail-amlinellu’r corff, siapio aeliau i newid gwedd electronig, i enwi ond ychydig.

 

I ymholi ymhellach ynglŷn â’r triniaethau a gynigir:

  • Ffoniwch - 01639 648582
  • Yn ogystal â’r prif fannau, mae gan yr ysgol hefyd bod TG yn y llyfrgell ar Gampws Afan sydd wedi’i gyfarparu gyda chyfrifiaduron â mynediad i’r fewnrwyd a’r rhyngrwyd, sef offeryn gwerthfawr o ran ymchwil ar gyfer prosiectau ac aseiniadau.

 

Garddwriaeth

Mae’r prif safle wedi’i leoli ym Mharc Margam ac mae’n gweithredu fel man addysgu a chanolfan arddio fasnachol.

 

Mae 3 tŷ gwydr mawr ac ystafell ddatod sy’n gweithredu fel ystafell ddosbarth ar gyfer myfyrwyr, yn enwedig y rheini ag anableddau corfforol. Ceir hefyd 4 twnnel polythen a ddefnyddir i storio a thyfu planhigion. Mae’r tiroedd yn darparu ar gyfer gerddi arddangos.

 

Y tu mewn

Mae’r adran arddwriaeth wedi cynnig am, a llwyddo i ennill, sawl gwobr fawreddog yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:

  • Medal Aur Fawr - Llanfair-ym-Muallt
  • Efydd - Gardeners World
  • Yr ail wobr - Sioe Wanwyn y Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol.

Yn ystod gwanwyn 2005, roedd yr adran wedi gweithio’n agos gyda Chartrefi Bovis i baratoi gerddi arddangos ar gyfer eu datblygiadau tai newydd.

 

Mae’r Ganolfan Arddio yn fenter fasnachol ac mae’n agored i aelodau o’r cyhoedd rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd. Gall cwsmeriaid brynu planhigion a chael gwybodaeth a chyngor gwerthfawr ynglŷn â garddio gan y staff a’r myfyrwyr.

 

Portffolio’r Cwricwlwm

Mae’r ysgol yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau, gan gynnwys cyrsiau arbenigol a diweddaru. Gall y myfyrwyr symud i fyny ac ar draws drwy’r cyrsiau yr ydym yn eu darparu.

 

Mae’r cyrsiau yn dechrau ar Lefel 1 Sylfaen Rhwydwaith y Coleg Agored a gall y myfyrwyr symud ymlaen i NVQ Lefel 3. Gellir cyrchu’r holl raglenni astudio naill ai drwy fynychu amser llawn neu ran amser. Mae cyfle gan y myfyrwyr i ennill cymwysterau llawn neu rannol / unedau yn yr holl ddyfarniadau.

 

Staffio

Ar hyn o bryd, mae 13 aelod o staff darlithio amser llawn, 5 darlithydd rhan amser a 2 hyfforddwr / technegydd. Mae gan yr holl staff gymwysterau perthnasol a chyfredol yn eu disgyblaethau penodol. Ymhlith y staff hyn y mae 7 Dilyswr Mewnol. Yn ogystal â’r staff darlithio, mae 5 technegydd sy’n gwasanaethu 3 phrif faes yr ysgol – Trin Gwallt, Therapïau a Garddwriaeth.

 

Mae 3 chydgysylltydd rhaglen:

  • Trin Gwallt - Veronica Cocks
  • Harddwch a Therapïau Cymwysedig - Juliana Thomas
  • Garddwriaeth - Richard Coleman (Mae hyn yn cynnwys y Ganolfan Arddio).
Noticeboard: Click here to see this faculty's latest news and eventsSchool of Horticulture, Hairdressing & BeautySchool of Horticulture, Hairdressing & BeautySchool of Horticulture, Hairdressing & BeautySchool of Horticulture, Hairdressing & BeautySchool of Horticulture, Hairdressing & Beauty