FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Ysgolion |
Mae’r Ysgol Beirianneg yn cynnwys rhaglenni astudio amser llawn a rhan amser a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion cyflogwyr yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd.
Cydnabyddir yr holl raglenni cymwysterau a gynigir yn genedlaethol a byddant yn gwella gobeithion myfyrwyr o gael gwaith o fewn eu disgyblaeth Peirianneg ddewisedig.
Mae’r adnoddau peirianneg yn cynnwys cyfleuster newydd ei adeiladu sy’n gartref i dri phrif Weithdy Peiriannu, sy’n cynnwys nifer o durnau, llifanwyr, peiriannau llyfnu arwyneb a pheiriannau rheolaeth rifiadol gyfrifiadurol (CNC) modern.
Yn ogystal, rydym wedi caffael dwy ganolfan peiriannu awtomatig cyflymder uchel cobra a reolir gan gyfrifiadur.
Yn gysylltiedig â’r prif Weithdai y mae cyfleusterau arbenigol sy’n cynnwys systemau cyfrifiadurol ar gyfer hyfforddiant mewn rhaglennu CNC, Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a system fesur 3D chwiliedydd cyffwrdd.
Mae’r adeilad hefyd yn gartref i weithdy Saernïo a Weldio cyfarparedig sy’n cwmpasu pob agwedd ar gymwysiadau weldio, gweithdy Hydroleg, gweithdy Niwmateg / Electro-Niwmateg a Chynnal a Chadw, ynghyd â labordy Technoleg Dylunio arbenigol.
Wedi’u lleoli ar yr un campws y mae’r Labordai Peirianneg Drydanol / Electronig, Ystafelloedd Dosbarth ac ystafelloedd Cyfrifiaduron, sy’n cynnwys adnoddau i gefnogi addysg o safon lefel mynediad i Radd Sylfaen, yn ogystal â gweithdy Hyfforddiant Cerbydau Modur modern iawn.
Ar Gampws Afan, mae gennym ail weithdy Hyfforddiant Cerbydau Modur a Chanolfan Hyfforddiant Trydanol arbenigol.
Mae’r Ysgol Beirianneg yn cynnig rhaglenni astudio sy’n dechrau ar Lefel Un, lle nad oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol wedi’u nodi a gellir cael lle ar y rhaglen drwy gyfweliad gyda Chydgysylltydd y Cwrs.
Rydym hefyd yn cynnig ystod lawn o raglenni ar Lefel 2 a Lefel 3 (gan gynnwys TAG Safon Uwch Technoleg Dylunio, TAG Safon Uwch Peirianneg a TAG Safon Uwch Electroneg).
Mae Peirianneg hefyd yn weithredol iawn wrth gyflenwi Hyfforddiant Prentisiaeth Fodern.
Mae rhaglenni Addysg Uwch ar gael hefyd drwy drefniadau gyda Phrifysgol Cymru a Phrifysgol Morgannwg (HNC, HND a Gradd Sylfaen).
Mae’r Ysgol yn ymfalchïo yn y ffaith bod ganddi gyfradd cyflawniad myfyrwyr dda iawn.