FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Ysgolion |
Mae’r Ysgol Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu yn cynnig rhaglenni astudio amser llawn a rhan-amser er mwyn cwrdd ag anghenion y sector diwydiant hwn, cyflym ei gam sy’n torri tir newydd. Mae gennym gysylltiadau helaeth gyda chyflogwyr y tu mewn i Gymru ac o bell.
Darperir ein rhaglenni Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu ledled ein tri phrif gampws:
Mae Campws Afan yn darparu ein cyrsiau electrotechnegol amser llawn a rhan-amser o Lefel 1 i Lefel 3. Mae cwrs amser llawn mewn Plymio hefyd ar gael gennym ar Lefel 1 a chyrsiau rhan-amser mewn Nwy ar Lefel 2 a Lefel 3. Cynigir Tystysgrifau Technegol ynghyd â chymwysterau NVQ ar gyfer pob rhan o’n rhaglenni.
Darperir cyrsiau amser llawn mewn Plymio yn y prif Gampws yng Nghastell-nedd ar Lefel 1 a Lefel 2. Mae’r rhai hyn yn cynnwys Tystysgrif Dechnegol a chymhwyster NVQ sy’n cynnig hyfforddiant ar gyfer sgiliau ymarferol â llaw sy’n eich paratoi ar gyfer y sector diwydiant Plymio ynghyd â’r sector diwydiant Gwresogi ac Awyru.
Darperir ein hyfforddiant seiliedig ar waith ar gyfer prentisiaethau yn ein Canolfan Hyfforddi Crefftau yn Llansamlet, Abertawe. Dyma ran o ganolfan fawr iawn sydd hefyd yn cwmpasu cyrsiau adeiladu. Mae’r gweithdai wedi’u moderneiddio ac maent yn cynnwys hyfforddiant erbyn hyn yn y Technolegau Amgylcheddol newydd a Gwresogi dan y llawr.
Mae ein Academi Ynni a leolir hefyd yn ein Campws Afan, yn cynnig rhaglenni a chyrsiau yn amrywio o hyfforddiant ac asesiad Diogelwch Nwy ACS i Effeithiolrwydd Ynni a hyfforddiant am Dechnolegau Amgylcheddol. Mae’r rhai hyn yn cynnwys cynhyrchu trydan gan ddulliau Ffotofoltäig Heulol; cynhyrchu trydan gan Dyrbinau Gwynt ; dŵr poeth Thermol Heulol (a ddarperir yn Llansamlet); hyfforddiant Pwmp Gwres (a ddarperir yn Llansamlet) a Chynaeafu Dŵr Glaw ac Ailgylchu Dŵr Llwyd (a ddarperir yn Llansamlet). Bydd technolegau newydd a fydd yn dod ar-lein cyn bo hir yn cynnwys systemau CHP (gwres a phŵer wedi’u cyfuno) a Gorchuddio.
Darperir amrywiaeth helaeth o gyrsiau byrion Electrotechnegol sy’n cwmpasu Rheoliadau Adeiladu Rhan P; Rheoliadau Gwifrau Argraffiad 17ed (Cyrsiau llawn a Chyrsiau diweddaru); Sylfeini Archwilio a Phrofi L2;Gwirio ac Archwilio Dyluniadau a Phrofi Lefel 3 a Phrofi Dyfeisiau Cludadwy L3 ar y safle a thu allan yn amodol ar wneud rhagdrefniadau gyda staff o’n hadran drydanol.
Cynigir y rhaglenni astudio hyn gan ein Ysgol Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu gan ddechrau ar Lefel 1 lle nad oes angen unrhyw ofynion mynediad ffurfiol hyd at gyrsiau gwella sgiliau Lefel 3 lle y mae lle ar y rhaglen yn seiliedig ar feini prawf rhagderfynedig (sydd ar gael wrth ofyn). Bydd pob cwrs yn cynnwys cyfweliad gyda’r Cydlynydd Cwrs.