FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Cymorth i Ddysgwyr |
Mae Canolfannau Adnoddau Dysgu yn cynnig cyfleusterau llyfrgell, TG ac astudio ar gampysau Castell-nedd ac Afan.
Afan |
Castell Nedd |
|||
|---|---|---|---|---|
| Llyfrgell | CAD | CAD Llawr Daear |
CAD Llawr Cyntaf |
|
| Dydd Llun | 9.00-6.00 | 9.00-5.00 | 9.00-7.30 | 9.00-4.30 |
| Dydd Mawrth | 8.30-6.00 | 8.30-5.00 | 8.30-7.30 | 9.00-4.30 |
| Dydd Mercher | 8.30-5.00 | 8.30-5.00 | 8.30-7.30 | 9.00-4.30 |
| Dydd Iau | 8.30-6.00 | 8.30-5.00 | 8.30-5.00 | 9.00-4.30 |
| Dydd Gwener | 8.30-4.30 | 8.30-4.30 | 8.30-3.30 | 9.00-3.30 |
Mae’r holl ddysgwyr sydd wedi ymrestru ar gwrs yn CCNPT yn aelodau o’r Llyfrgell yn awtomatig. Mae angen cerdyn adnabod dilys i fenthyca’r adnoddau a defnyddio’r cyfleusterau TG.
Ar hyn o bryd, mae 40,000 o eitemau ar gael i’w benthyca, gan gynnwys llyfrau, DVDs a fideos. Chwiliwch Gatalog Llyfrgell Ar-lein Treftadaeth i ddod o hyd i’r deunyddiau sydd eu hangen arnoch. Mae ystod eang o gyfnodolion a phapurau newydd ar gael. Mae offer clyweledol ar gael er mwyn i fyfyrwyr wylio DVDs y Llyfrgell / Gwaith Cwrs.
Mae’r Llyfrgell Electronig yn gasgliad o wefannau ac adnoddau ar-lein o’r ansawdd gorau a ddewiswyd yn arbennig i’ch helpu gyda’ch ymchwil a’ch astudiaeth. Mae ar gael 24/7 ac mae’n cynnwys e-lyfrau, erthyglau, papurau newydd, cyfnodolion, ystadegau a delweddau.
Darperir cyfrifiaduron personol amlgyfrwng a chyfleusterau argraffu ym mhob CAD. Maent yn agored ar sail galw heibio neu gallwch ddefnyddio Fy Nghyfrifiadur Personol i gadw cyfrifiadur ymlaen llaw.
Mae mannau astudio unigol a grwp ar gael ar bob safle.
Mae cyfleusterau argraffu du a gwyn a lliw ar gael ar bob safle.
Rhowch gynnig ar ein gwasanaeth benthyca rhwng llyfrgelloedd. Os nad yw’r llyfr neu’r erthygl o gyfnodolyn sydd ei hangen arnoch ar gael yn Llyfrgell eich campws, yn fwy na thebyg, byddwn yn gallu cael copi ar eich cyfer, naill ai oddi wrth gampws arall neu’r Llyfrgell Brydeinig.
Chwiliwch gatalogau llyfrgelloedd eraill gan ddefnyddio CatCymru i ddod o hyd i lyfrgell â chopi o’r teitl rydych chi’n chwilio amdano.
Gofynnwch i staff y Llyfrgell am gymorth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â’r gwasanaeth, cysylltwch â ni ar:
Castell-nedd: 01639 648601
Afan: 01639 648270
e-mail: libraries@nptc.ac.uk