DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
How to Apply
Sut i Ymgeisios

Get Abobe Reader

 

Bydd angen i chi fod wedi gosod Adobe Reader 7.0.5 neu’n uwch ar eich system er mwyn gweld y ffeiliau hyn. Cliciwch yma i’w lawrlwytho.

Sut i Ymgeisio

Cyrsiau Amser Llawn

 

Ni allai fod yn haws ymuno â CCNPT. Dilynwch y camau isod a phe bai gennych unrhyw ymholiadau ynglyn â’r broses ymgeisio, cysylltwch â Derbyniadau.

 

1. Dewis eich Cwrs

Edrychwch yn ofalus drwy’r cyrsiau academaidd neu alwedigaethol y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Defnyddiwch y blwch chwilio yng nghornel chwith uchaf y sgrîn i ddarganfod mwy am gwrs penodol. Os nad ydych wedi penderfynu, trafodwch gyda darlithwyr cyrsiau yn ein nosweithiau agored / gwybodaeth neu’n diwrnodau agored i’ch helpu i wneud eich penderfyniad. I gael amserau / dyddiadau ein digwyddiadau sy’n gysylltiedig â chyrsiau, ewch i’n hadran Dyddiadau Allweddol.

 

2. Ffurflen Gais

Unwaith y byddwch wedi dewis eich cwrs / cyrsiau, ymgeisiwch ar-lein drwy ddefnyddio’r Ffurflen Gais ar-lein. Cliciwch yma i Ymgeisio Ar-lein... neu lawrlwythwch ffurflen o’r ddolen isod a’i dychwelyd at Dderbyniadau ar gampws o’ch dewis.

 

Noder: nid ffurflen ymrestru mo hon.

 

Lawrlwytho’r Ffurflen Gais Amser Llawn (PDF)

 

Get Adobe Reader

Bydd angen i chi fod wedi gosod Darllenydd Adobe 7.0.5 neu’n uwch ar eich system er mwyn gweld y ffeil hon. Cliciwchyma i’w lawrlwytho...

 

3. Cyfweliad

Ar ôl i’ch ffurflen gais gael ei phrosesu, fe’ch gwahoddir i fynychu cyfweliad, naill ai yn yr ysgol neu yn y Coleg. Yn ystod y cyfweliad hwn, byddwch yn gallu trafod eich dewis gwrs ymhellach, yn ogystal â’r gofynion mynediad a’r rhagolygon gyrfa sy’n arwain o’r cwrs hwnnw.

 

4. Llythyr Cadarnhau

Yn dilyn y cyfweliad, anfonir llythyr atoch yn cadarnhau’r cynnig – naill ai derbyniad pendant neu amodol, gan ddibynnu ar ba un a ofynnwyd i chi gyflawni graddau arholiad penodol neu beidio. Bydd angen i chi ddychwelyd y slip derbyn, a fydd yn cyrraedd gyda’r llythyr cadarnhau, at Dderbyniadau.

 

5. Pecyn Gwybodaeth

Byddwch yn derbyn pecyn gwybodaeth sy’n cynnwys manylion ychwanegol am fywyd myfyriwr yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot ac yn rhoi dyddiadau ymrestru a’r tymhorau.

 

6. Canlyniadau Arholiad

Os nad ydych wedi cyflawni’r canlyniadau arholiad a ddymunwyd gennych, peidiwch â phoeni, bydd staff ar gael ar y ddau gampws yn ystod y cyfnod ymrestru i roi cyngor a chyfarwyddyd ynglyn â newidiadau posibl i’ch cwrs gwreiddiol. Os ydych wedi cyflawni’r graddau angenrheidiol, ond hoffech newid eich dewis cwrs gwreiddiol, gallwch wneud hyn hefyd yn ystod y cyfnod ymrestru.


Sicrhewch eich bod wedi penderfynu ar eich dewisiadau cwrs a’ch bod wedi’u nodi, gan gynnwys cod y cwrs ar gyfer pob un ohonynt.