DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
Work-Based Learning Courses
Cyrsiau Dysgu Seiliedig ar Waith

Cyrsiau Dysgu Seiliedig ar Waith

Hyfforddiant Pathways CCNPT

 

Beth yw Prentisiaethau?

Mae prentisiaethau yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol fel NVQ, Sgiliau Allweddol a chymwysterau technegol eraill. Mae prentisiaethau yn darparu rhaglen ddysgu integredig sy’n arwain at ennill gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd.

 

Mae tair lefel o Brentisiaeth yng Nghymru:

 

Pa Raglenni Dysgu Seiliedig ar Waith Eraill sydd ar gael?

Mae’r rhaglen Adeiladu Sgiliau yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr roi cynnig ar wahanol swyddi, hyd at uchafswm o 13 wythnos, er mwyn gwneud dewis gwybodus ynglŷn â’u gyrfa yn y dyfodol. O fewn y rhaglen hon, gallwn hefyd gynnig cyfle i ddysgwyr, nad ydynt yn hollol barod ar gyfer prentisiaeth, ennill cymhwyster NVQ Lefel 1 mewn amrywiaeth o lwybrau galwedigaethol, ynghyd â chymorth ychwanegol gyda llythrennedd a rhifedd os oes angen. (Mae cyfyngiad oedran yn berthnasol i’r rhaglen hon).

 

Y Ganolfan Hyfforddiant Adeiladu ym Maesteg

Mae’r Ganolfan Hyfforddiant Adeiladu yn cynnig cyfleoedd i Oedolion di-waith ddychwelyd i’r byd gwaith ac ennill cymhwyster NVQ Lefel 2 mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw. Mae dysgwyr yn ymgymryd â hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith yn y Ganolfan i wella eu gwybodaeth, ysgogiad a’u hyder tra’n mynychu lleoliad gwaith adeiladu i wella eu sgiliau a’u cymhwysedd.

 

Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnig cyfleoedd dan y rhaglen Adeiladu Sgiliau i ddysgwyr 16-18 oed.