FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Cyrsiau |
Mae cost y cyrsiau yn amrywio gan ddibynnu ar y patrwm mynychu, lefel y cwrs, ac ati. Yn gyffredinol, mae cyrsiau amser llawn am ddim, mae ffioedd rhan amser a ffioedd Addysg Uwch yn y prosbectws a dylai myfyrwyr tramor gysylltu â’r Coleg yn y lle cyntaf i drafod eu hamgylchiadau unigol.
Mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Gall dysgwyr 16, 17 a 18 oed hawlio LCA (Lwfans Cynhaliaeth Addysg) ac mae’r swm yn cael ei gyfrifo yn erbyn incwm eu rhieni. Mae cronfeydd eraill ar gael i helpu dysgwyr, fel Grantiau Dysgu’r Cynulliad (GDC), a’r Gronfa Cymorth Dysgu (CCD). Gellir cael cyngor ar yr uchod oddi wrth Wasanaethau Dysgwyr, ffoniwch: 01639 648404
Mae’r gallu i dalu ffioedd drwy randaliadau yn dibynnu ar gyfanswm cost y cwrs. Gellir trafod hyn gyda Rheolwr Cyllid y Coleg.
Mae’r Coleg yn cynnig ystod eang o gyrsiau ac, yn gyffredinol, nid yw meysydd llafur penodol ar gael. Fodd bynnag, yn ystod Nosweithiau Gwybodaeth ac Agored y Coleg, gellir trafod meysydd llafur gyda thiwtoriaid unigol. Os nad yw amserau’r digwyddiadau hyn yn gyfleus, gellir trefnu apwyntiadau personol.
Bydd math a lefel y cwrs yr ydych yn ei ddewis yn pennu a fyddwch yn sefyll arholiadau diwedd cwrs. Gellir cael manylion am y gofynion asesu ym mhrosbectws y Coleg neu oddi wrth gydgysylltwyr y cyrsiau.
Mae’r Coleg yn gweithio’n agos gyda Gyrfa Cymru Gorllewin. Gall myfyrwyr alw heibio i Wasanaethau Dysgwyr, naill ai ar Gampws Castell-nedd neu Afan, i gael cyngor gyrfaoedd neu drefnu apwyntiad i ddiwallu eu hanghenion.
Mae’r Coleg yn cymryd yr angen i sicrhau bod ei gyfleusterau yn hygyrch ac yn groesawgar i ddysgwyr ag anableddau o bob math, o ddifrif. Gellir dod o hyd i’n hymrwymiad i bobl anabl yn ein Datganiad Anabledd.
Mae angen offer personol ar gyfer cyrsiau penodol, fel Arlwyo, Gwallt a Harddwch, a Pheirianneg. Mae manylion am y gofynion ar gael ar gais neu pan gynigir lle i chi ar y cwrs.
Mae meithrinfeydd wedi’u lleoli ar Gampysau Castell-nedd, Afan a Choleg Pontardawe, sydd ar gael i staff, myfyrwyr a’r gymuned leol. Mae’r meithrinfeydd yn cael eu rhedeg gan aelodau o staff hollol gymwys, y mae pob un ohonynt wedi’u gwirio gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB), ac maent yn agored o 8am i 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r meithrinfeydd yn gofalu am ddau grwp oedran – 12 wythnos i 2 oed a 2 oed i 7 oed. Croesewir ymweliadau archwilio. I drefnu apwyntiad neu ddarganfod mwy am ein cyfleusterau, gweithdrefnau archebu lle a phrisiau, cysylltwch â Meithrinfa Lilipwt: Campws Castell-nedd 01639 648039; Campws Afan 01639 648239, Coleg Pontardawe 01639 648139. Gellir cael gwybodaeth bellach hefyd drwy glicio yma.
Mae gan y Coleg fannau gwerthu bwyd ar bob un o’i brif safleoedd, sy’n darparu eitemau byrbryd i brydau wedi’u coginio’n llawn. Mae’r ffreuturiau yn agored o ddechrau’r bore i ddechrau’r hwyr ac mae cyfleusterau gwerthu ar gael hefyd mewn blociau addysgu amrywiol.
Nid oes gan y Coleg Neuaddau Preswyl; fodd bynnag, mae gan Wasanaethau Dysgwyr fanylion am ystod o lety yn yr ardal. Mae’r holl lety wedi’i archwilio gan yr Awdurdod Lleol i sicrhau addasrwydd.
Mae’r Coleg yn gweithio’n agos gyda chwmni bws ‘First’, sy’n neilltuo bysiau i’r Coleg ar y llwybrau mwyaf poblogaidd. Mae bysiau gwennol hefyd ar yr oriau brig rhwng y prif safleoedd.
Mae gan y Coleg ddigon o gyfleusterau parcio ceir sydd ar gael AM DDIM i Ddysgwyr.
Gall yr holl ddysgwyr sy’n siarad Cymraeg gyrchu gwasanaethau’r coleg drwy gyfrwng y Gymraeg a chânt gyfle i ymgymryd â rhai elfennau o’u rhaglenni dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, lle bo staff sy’n siarad Cymraeg ar gael. Mae cymorth ychwanegol ar gael hefyd ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno gwella eu sgiliau llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar gyfer dysgwyr sy’n fwy cyfforddus yn cynhyrchu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar hyn o bryd, rydym yng nghanol y broses o ddiweddaru/gyfieithu llawer o’r cynnwys sydd ar ein gwefan.