DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
Lilliput Day Nursery
Gwasanaethau Hyfforddi a Masnachol

Meithrinfa Ddydd Lilipwt

 

Mae Meithrinfa Ddydd Lilipwt yn darparu gwasanaethau gofal dydd proffesiynol ar gyfer plant dan 8 oed, ar Gampysau Castell-nedd, Afan a Choleg Pontardawe. Mae gan bob Meithrinfa ddwy adran ar wahân, un ar gyfer plant dan 2 oed ac un ar gyfer plant dros 2 oed. Mae gan bob adran le chwarae agored mawr, sydd wedi’i isrannu’n lle carpedog a lle llawr caled. Mae’r lle carpedog ar gyfer gweithgareddau fel chwarae rôl, chwarae ar y llawr, gweithgareddau pen bwrdd, ac ati, tra bod y lle llawr caled, sydd wedi’i orchuddio â deunydd llawr dalennau finyl gwrthlithro, ar gyfer chwarae brwnt neu wlyb fel cafn dŵr, padell dywod, paentio, ac ati. Mae ystafell ymolchi ym mhob adran, gyda chyfleusterau newid cewynnau, basnau golchi dwylo lefel isel a thoiledau i blant.

 

O fewn yr adran i blant dros 2 oed, mae dwy ystafell dawel garpedog. Mae’r rhain ar gyfer gweithgareddau tawel fel darllen, gwrando ar gerddoriaeth, gwylio fideo, ac ati, neu os oes angen i blentyn orffwys neu gysgu. Darperir cotiau neu welyau er mwyn i blant orffwys neu gysgu yn llawn ac maent yn cael eu goruchwylio gan aelod o staff. Mae gan yr adran i blant dan 2 oed un ystafell dawel garpedog at yr un diben. Mae lle chwarae awyr agored hollol gaeëdig ag wyneb sbwng diogelwch, gyda cheir, beiciau a fframiau dringo bach ar gyfer ymarfer corff dyddiol, sy’n cael ei oruchwylio’n llawn bob amser.

 

Mae Meithrinfa Ddydd Lilipwt yn cyflenwi ystod eang o ddeunyddiau ac offer chwarae er mwyn darparu cwricwlwm symbylol, diddorol ac addysgol. Mae’r gweithgareddau yn cael eu darparu a’u goruchwylio gan Gynorthwywyr Meithrin cymwys mewn amgylchedd diogel a glân, ac maent wedi’u teilwra i gyd-fynd ag anghenion unigol y plentyn.

 

Gwahoddir rhieni a phlant i ymweld â’r feithrinfa ar gyfer archwiliad cyn mynediad drwy apwyntiad gyda staff y feithrinfa. Teimlwn fod yr ymweliadau archwilio hyn yn bwysig. Maent yn caniatáu i blant a staff gwrdd â’i gilydd, ac yn caniatáu i’r rhiant gael cipolwg ar ansawdd y gofal y bydd eu plentyn yn ei dderbyn a thrafod unrhyw faterion penodol gydag uwch staff. Mae’r ymweliadau hyn yn ffyrdd cyfeillgar ac anffurfiol o gael pawb i gwrdd â’i gilydd.

 

Darperir bwyd, ar gais y rhieni, drwy ffreuturiau’r Coleg ar Gampysau Afan a Chastell-nedd am gost ychwanegol, fodd bynnag, nodwch nad oes unrhyw gyfleusterau i ddarparu bwyd yng Ngholeg Pontardawe, a bydd angen i rieni ddod â chinio pecyn i mewn.

 

Mae’r prisiau yn amrywio yn flynyddol, a gellir cynnig gostyngiadau. Cysylltwch â’r Feithrinfa i ddarganfod mwy:

 

Campws Castell-nedd   

01639 648039

Campws Afan

01639 648239

Coleg Pontardawe  

01639 648139