FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Gwasanaethau Hyfforddi a Masnachol |
Yn ddiweddar, agorwyd canolfan newydd y celfyddydau perfformio gwerth £2 filiwn ar Gampws Castell-nedd ac mae’n cynnwys theatr bwrpasol gydag awditoriwm â 170 o seddau. Ymhlith y nodweddion eraill y mae sgrîn sinema, offer goleuo a sain manyleb uchel a thŵr crog ag offer hedfan o’r radd flaenaf.
Mae Canolfan Gelfyddydau Nidum yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer myfyrwyr drama, dawns, theatr gerdd a pherfformiad cerddorol, ac mae’n gartref i ddwy stiwdio amlbwrpas gyfarparedig ar gyfer sesiynau perfformio ymarferol. Mae adran y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio (CGPh) yn llwyfannu sioeau yn y Ganolfan Gelfyddydau yn rheolaidd, ac mae hefyd yn defnyddio’r lle i arddangos gwaith celf a dylunio, yn ogystal â ffotograffiaeth a gwaith amlgyfrwng. Gwiriwch ein hysbysfwrdd CGPh am restr o ddigwyddiadau / arddangosfeydd presennol.
Mae’r Ganolfan Gelfyddydau ar gael i’w llogi am gost. Am wybodaeth bellach ac i wirio argaeledd cysylltwch â Robert Jones ar Robert.Jones2@nptc.ac.uk or telephone 01639 648300, mobile 07505 339921.
