FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Dysgu Oedolion |
Mae Coleg Castell-nedd Port Talbot yn cynnig cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar ran Canolfan Cymraeg i Oedolion De Orllewin Cymru.
Mae’r cyrsiau’n rhan o raglen gynhwysfawr o gyrsiau Cymraeg i Oedolion a gynigir gan y Ganolfan ac a ddarperir gan bartneriaid ar draws Castell Nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gâr a Sir Benfro. Mae cyrsiau ar bob lefel ar amserau dosbarth amrywiol a lefelau a dwyster amrywiol.
Am wybodaeth ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion a gynigir gan Goleg Castell-nedd Port Talbot, cysylltwch â (01639) 64 84 09 neu ewch at ein gwefan www.nptc.ac.uk.
Gallwch hefyd gysylltu â’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion ar (01792) 60 20 70 neu ymwelwch â ni ar www.dysgucymraegdeorllewin.org
Bob blwyddyn, mae Coleg Castell-nedd Port Talbot yn cynnal Sadwrn Siarad, lle darperir sesiwn adolygu diwrnod cyfan ar holl lefelau dosbarthiadau’r coleg. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfle i gwrdd â dysgwyr o ddosbarthiadau eraill ar yr un lefel, ac ymarfer gyda nhw.
Rydym hefyd yn darparu sesiynau galw heibio yng Nghanolfan Stryd y Frenhines, Castell-nedd, lle gall dysgwyr sy’n barod i ymarfer sgwrsio yn y Gymraeg mewn lleoliad anffurfiol ddod i gwrdd â dysgwyr uwch eraill a siaradwyr Cymraeg cefnogol.