DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
Return to Learn with NPTC
Dysgu Oedolion

Dychwelyd i Ddysgu gyda CCNPT

 

Gall newid gyrfa, dysgu sgiliau newydd neu fynd yn ôl i’r gwaith ymddangos yn nodau amhosibl – ond nid oes yn rhaid iddynt fod felly. Mae gan yr Ysgol Addysg Oedolion a Chymunedol yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot dros 20 o ganolfannau ar draws y sir lle byddwch yn gallu ailddechrau arni.

 

Mae gan lawer ohonom fylchau yn ein gwybodaeth ond mae’r dosbarthiadau Dychwelyd i Ddysgu yn rhoi cyfle i bob oedolyn wella eu Sgiliau Cymraeg*, Saesneg a Mathemateg (o’r dechrau i gyn-TGAU). Gyda chymorth cyfeillgar, cefnogaeth a dosbarthiadau AM DDIM, gallwch weithio tuag at wella’r meysydd rydych chi’n eu dewis ar y lefel sydd ei hangen arnoch. Gallwch loywi ystod o sgiliau, gan gynnwys:

  • Darllen
  • Gramadeg
  • Rhifau
  • Mesur
  • Sillafu
  • Siarad a gwrando
  • Arian
  • Siapiau
  • Geirfa
  • Ffracsiynau
  • Defnyddio ffeithiau a ffigurau
  • Ysgrifennu
  • Ymuno â thrafodaethau
  • Degolion
  • Atalnodi
  • Canrannau

 

Gall gwella eich gwybodaeth bresennol ac ennill sgiliau newydd gynyddu eich hyder a chyda’r Gwasanaeth Dychwelyd i Ddysgu, gallwch:

  • Weithio ar eich cyflymdra eich hun
  • Helpu eich plant gyda’u gwaith cartref
  • Ennill cymhwyster
  • Gweithio gydag eraill mewn amgylchedd grŵp

 

*yn dibynnu ar argaeledd staff