DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
Learndirect
Dysgu Oedolion

Learndirect

 

Mae learndirect yn ffordd fodern o ddysgu sydd wedi’i chynllunio i sicrhau bod mynediad at ddysgu yn hawdd. Os ydych yn weithiwr, rhiant, gofalwr neu’n rhywun sy’n edrych am ffordd amrywiol a newydd o ddysgu, gall learndirect helpu. Mae cyrsiau learndirect yn hyblyg a gallwch eu dechrau unrhyw bryd. Gallwch ddysgu gartref, yn y gwaith neu yn unrhyw fan lle gallwch gael mynediad i’r Rhyngrwyd. Mae dros 700 o gyrsiau i ddewis ohonynt. Maent i gyd yn seiliedig ar gyfrifiaduron, ond ni ddylai hynny eich atal rhag eu cyrchu, gan fod staff cymwys a hyfforddedig ar gael ym mhob canolfan learndirect i roi pa gymorth bynnag sydd ei angen. Gallwch ddefnyddio cyrsiau learndirect i wella eich sgiliau cyfrifiaduron neu loywi eich llythrennedd a’ch rhifedd. Gallwch hefyd ddefnyddio learndirect i ddatblygu eich gwybodaeth fusnes a rheoli.