DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
Coleg Pontardawe
Dysgu Oedolion

Coleg Pontardawe

 

Wedi’i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Alloy, gyferbyn â’r Ganolfan Gofal Iechyd Sylfaenol, mae Coleg Pontardawe wedi’i gynllunio i ddenu dysgwyr o bob rhan o Bontardawe a’r cyffiniau. Bydd hefyd yn lle amlwg i weithwyr yn y ffatrïoedd a’r busnesau ar yr Ystâd Ddiwydiannol gyrchu cyrsiau cysylltiedig â gwaith.

 

Mae’r dosbarthiadau a gynigir yn cynnwys ystod o ieithoedd fel Cymraeg, Ffrangeg ac Eidaleg (mae croeso arbennig i ddechreuwyr) a’r cyrsiau cyfrifiadurol bythol boblogaidd, gan gynnwys Cyfrifiaduron i’r Di-glem a Defnyddio Cyfrifiaduron ar ôl Ymddeol. Mae hefyd cyrsiau mewn busnes, cyfrifon a chyflogres, yn ogystal â chwrs Mynediad i Addysg Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Mae’r cyfleusterau i ddysgwyr yn newydd a modern ac maent yn cynnwys dwy swît gyfrifiaduron, nifer o ystafelloedd dosbarth a Chanolfan Learndirect ar gyfer dysgu ar-lein. Mae hefyd adran Dychwelyd i Ddysgu, lle gall oedolion loywi eu sgiliau llythrennedd a rhifedd.

 

Mae Coleg Pontardawe yn cynnig gwasanaethau a chyfleusterau gwych, gan gynnwys:

  • Meithrinfa Gofal Dydd
  • Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd
  • Ystafell Gynadledda
  • Gwasanaethau ar gyfer unigolion a busnesau - cyfrifiaduron, llun-gopïo, ffacs, ac ati.

 

Mae Coleg Pontardawe hefyd yn cynnig pecynnau hyfforddiant sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer busnesau. Mae’r rhain yn cael eu cyflenwi mewn partneriaeth ag adran Fusnes Coleg Castell-nedd Port Talbot, Hyfforddiant Cymru. Mae’r cyrsiau a gynigir yn cynnwys:

  • Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL) a chyrsiau cyfrifiadurol eraill
  • Rheoli’n Ddiogel y Sefydliad ar gyfer Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH)
  • Y Bwrdd Arholi Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (NEBOSH)
  • Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
  • Hyfforddiant Rheoli
  • Hylendid Bwyd a Maetheg