FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Cynllun Cyhoeddi’r Coleg |
Mae’r adran hon yn cwmpasu’r swyddogaethau hynny o fewn y sefydliad sy’n cynnig mynediad at wybodaeth i gorff y myfyrwyr a staff academaidd a gweinyddol. Mae’r rhain yn cynnwys llyfrgelloedd, gwasanaethau cyfrifiadura a gwasanaethau cymorth gwybodaeth.
Gallai swyddogaethau o’r fath fod wedi’u rheoli ar wahân i’w gilydd, neu mewn cyfuniadau amrywiol. Mae’r gwasanaethau hyn fel arfer yn esbonio eu cyfleusterau a’r amodau ar gyfer eu defnyddio i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd, a gwybodaeth o’r math hwn sydd wedi’i chynnwys o fewn yr adran hon.
Mae’n anochel bod gwasanaethau gwybodaeth yn cadw symiau mawr o ddata personol sydd wedi’u heithrio rhag cael eu datgelu’n gyffredinol.
Disgrifiad:
Mae gwybodaeth yn y dosbarthiadau hyn yn rhoi manylion ynglŷn â phwy sy’n gallu cyrchu systemau a gwasanaethau a’r cyfleusterau y gallant eu cyrchu. Maent hefyd yn rhoi sicrwydd i gyrff allanol / unigolion fod rheolau yn bodoli i sicrhau yr ymdrinnir ag achosion o dorri amodau defnyddio yn briodol.
Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
| Strategaeth Systemau Gwybodaeth | Papur | Am ddim |
Cytundeb Defnyddwyr y Rhwydwaith
Staff | Papur | Am ddim |
| Cod Ymddygiad Janet [www.janet.ac.uk] |
Papur | Am ddim |
| Polisi a Gweithdrefn Ddisgyblu ar gyfer Staff a Myfyrwyr [Croesgyfeiriwch at Adran 3.1]
| Papur | Am ddim |
Disgrifiad:
Dylai’r dosbarth hwn gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â nodau’r adran yng nghyd-destun ei lle yn y sefydliad, diffiniad o’r gwasanaeth a ddarperir a, lle bo’n briodol, cytundebau lefel gwasanaeth.
Disgrifiad:
Mae gwybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnig sicrwydd i wrthrychau data, boed yn unigolion neu’n gwmnïau sy’n delio â’r sefydliad, fod data sy’n ymwneud â nhw yn cael ei drafod yn dda, gan leihau’r perygl o fynediad neu ddatgeliad anawdurdodedig. Mae enghreifftiau o’r math o wybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnwys:
Lawrlwytho’r Polisi Diogelu Data
Disgrifiad:
Mae gwybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnig sicrwydd bod arian yn cael ei wario’n briodol a sicrwydd bod y broses gaffael yn deg ac yn agored. Mae’r polisïau gwaredu hefyd yn sicrhau bod y sefydliad yn defnyddio cronfeydd yn gywir ac yn briodol.
Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
| Cofnodion y Gweithgor Offer | Papur | Am ddim |
| Polisi a Gweithdrefnau Caffael [Croesgyfeiriwch at Adran 2.2] |
Papur | Am ddim |
Polisïau a Gweithdrefnau Ariannol
Tendro |
Papur | Am ddim |
| Rheoliadau Ariannol [Croesgyfeiriwch at Adran 2.2] |
Papur | Am ddim |
Disgrifiad:
Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
| Catalog y Llyfrgell | Papur | Am ddim |