FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Cynllun Cyhoeddi’r Coleg |
Mae Cynlluniau Cyhoeddi yn un o ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae’r Ddeddf yn hybu bod yn fwy agored, tryloyw ac atebol ar draws y sector cyhoeddus drwy fynnu bod yr holl 'awdurdodau cyhoeddus' yn rhagweithiol wrth sicrhau bod gwybodaeth ar gael, drwy gynlluniau o’r fath. At ddibenion y Ddeddf, mae 'awdurdodau cyhoeddus' yn cynnwys prifysgolion, colegau addysg uwch, addysg bellach a chweched dosbarth.
Mae Coleg Castell-nedd Port Talbot wedi mabwysiadu’r Cynllun Cyhoeddi enghreifftiol a ddatblygwyd ar gyfer y sectorau Addysg Uwch / Addysg Bellach ac mae wedi ymrwymo i gynnig mynediad at y wybodaeth y mae’n ei hamlinellu. Diben yr enghraifft yw osgoi dyblygu ymdrechion wrth gynhyrchu cynlluniau unigol a chynorthwyo aelodau o’r cyhoedd i gyrchu gwybodaeth o bob rhan o’r sector yn ei gyfanrwydd.
Mae Coleg Castell-nedd Port Talbot yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn cynnig ‘mwy nag addysg yn unig.’ Ei genhadaeth yw sicrhau bod ‘Dysgu o ansawdd yn golygu cyflawniad i bawb.’ Mae’r Coleg yn sefydliad trydyddol a grëwyd ym 1999 drwy uno cyn-Golegau Castell-nedd ac Afan. Dyma’r coleg addysg bellach mwyaf ond un yng Nghymru gyda dros 14,000 o fyfyrwyr. Mae’n gweithredu o 8 prif safle:-
Yn ogystal, mae hefyd yn cyflenwi cyrsiau mewn dros 70 o Ganolfannau allgymorth.
Mae’r Coleg yn darparu cymysgedd eang o gyrsiau academaidd, galwedigaethol a phwrpasol ar lefelau addysg bellach ac uwch ar gyfer cymunedau Castell-nedd Port Talbot a thu hwnt. Mae ei ddysgwyr yn rhychwantu’r ystod oedran 16 i 80 oed. Mae ganddo record brofedig mewn llwyddiannau academaidd, chwaraeon a diwylliannol sy’n ei osod ymhlith y colegau gorau yng Nghymru. Ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant yw conglfaen ei lwyddiant.
Mae categorïau’r wybodaeth sydd ar gael fel yr amlinellir yn y Cynllun Cyhoeddi.
Mae rhywfaint o’r wybodaeth ar gael yn uniongyrchol drwy ei lawrlwytho neu’i hargraffu oddi ar wefan y Coleg. Os na ellir ei chyrchu drwy’r llwybr hwnnw, cyfeiriwch geisiadau am wybodaeth at:-
Kathryn Holley
Swyddog Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth
Coleg Castell-nedd Port Talbot
Campws Castell-nedd
Heol Dŵr-y-Felin
Castell-nedd
SA10 7RF
Rhif Ffôn: 01639-648034
Rhif Ffacs: 01639-648019E-bost: FOI@nptc.ac.uk
Wrth wneud cais, nodwch yn glir y wybodaeth sydd ei hangen arnoch dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae’r rhan fwyaf o wybodaeth ar gael yn rhad ac am ddim. Mae’r Cynllun yn nodi pa eitemau y codir tâl amdanynt. Yn gyffredinol, mae hyn yn digwydd pan mae dogfennau dros 20 tudalen yn cael eu hargraffu neu’u copïo. Mewn achosion o’r fath, ceidw’r Coleg yr hawl i godi tâl rhesymol am gostau copïo a gweinyddu.
O 1 Ionawr 2005 ymlaen, mae hawl gan ymholwyr, dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, i wneud cais am unrhyw wybodaeth a gedwir gan awdurdod cyhoeddus nad yw ar gael eisoes drwy eu Cynllun Cyhoeddi. Dylid gwneud ceisiadau am wybodaeth o’r fath yn ysgrifenedig ac, yn gyffredinol, bydd gan awdurdodau cyhoeddus hyd at 20 diwrnod i ymateb. Gellir codi ffi. Nid yw’n ofynnol i’r Coleg ymateb i geisiadau am ryddhau gwybodaeth y mae esemptiad yn y Ddeddf yn berthnasol iddi yn gyfreithlon.
Gall atgynhyrchu deunydd a ddarparwyd dan ei Gynllun Cyhoeddi heb ganiatâd clir oddi wrth Goleg Castell-nedd Port Talbot olygu torri ei hawlfraint. Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd at y Swyddog Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth.
Mae’n bwysig bod y Cynllun Cyhoeddi yn diwallu anghenion y rheini sy’n ei ddefnyddio. Byddai unrhyw awgrymiadau adeiladol ynglŷn â chynyddu cwmpas y Cynllun a sut y gellid gwella’r cyhoeddiadau eu hunain yn cael eu croesawu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau:
Os oes gennych gŵyn ynglŷn â’r Cynllun Cyhoeddi, ysgrifennwch yn y lle cyntaf, gan roi’r manylion llawn, at y Pennaeth. Os na all y Coleg ddatrys eich cwyn, mae gennych hawl i gwyno i’r Comisiynydd Gwybodaeth, y corff annibynnol sy’n goruchwylio’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth y mae ei gyfeiriad fel a ganlyn:-
Comisiynydd Gwybodaeth
Tŷ Wycliffe
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF