DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
Governance
Ynglŷn â CCNPT

Llywodraethu

 

Mae llywodraethu yn ymwneud â’r syniadau, strwythurau a’r systemau hynny sy’n ffurfio cyfeiriad strategol a rheolaeth y Coleg er budd ei holl randdeiliaid – y dysgwyr, eu rhieni, cyflogwyr presennol ac yn y dyfodol, y staff a’r gymuned ehangach o bobl â diddordeb sydd, gyda’i gilydd, yn adlewyrchu ac yn cynrychioli Castell-nedd Port Talbot. Mae’r Llywodraethwyr, drwy Fwrdd y Gorfforaeth a’i Bwyllgorau, yn gyfrifol am genhadaeth, cyfeiriad strategol a sicrwydd ariannol y Coleg. Mae’r Uwch Dîm Rheoli, dan arweiniad y Pennaeth, yn gyfrifol am reolaeth strategol y Coleg a gweithredu polisi’r Gorfforaeth.

 

Rhan o ethos rheoli Coleg Castell-nedd Port Talbot yw’r dymuniad i ddangos ei ymrwymiad i fod yn agored, tryloyw, gonest ac atebol drwy roi cymaint o wybodaeth yn y parth cyhoeddus ag y gall ei wneud yn rhesymol heb beryglu cyfrinachedd busnes a hawliau cyfreithiol unigolion.

 

Mae’r rhan hon o wefan y Coleg yn cynnwys y canlynol:-

 

PDF File Adran 1 : Llawlyfr Llywodraethu (PDF) – canllaw defnyddwyr i lywodraethwyr sy’n amlinellu manylion yr aelodaeth bresennol, strwythurau llywodraethu a rheoli, dyletswyddau a chyfrifoldebau unigolion a phwyllgorau, ynghyd â pholisïau a gweithdrefnau allweddol.

 

Link Adran 2 : Adroddiad Blynyddol Clerc y Gorfforaeth ar Lywodraethu yn y Coleg – adroddiad cydymffurfio yn rhannol a gwybodaeth yn rhannol ar ystod eang o faterion llywodraethu.

 

Link Adran 3 : Gwybodaeth i Lywodraethwyr – crynodeb anffurfiol, hawdd ei ddefnyddio o’r holl faterion nad ydynt yn gyfrinachol fel yr amlinellir yn Adran 4, sydd wedi’i gynllunio i helpu’r llywodraethwyr a’r cyhoedd i ddilyn datblygiadau.

 

Link Adran 4 : Cofnodion – y cofnod ffurfiol o’r holl faterion nad ydynt yn gyfrinachol a drafodir ac a gymeradwyir yng nghyfarfodydd y Gorfforaeth a’r Pwyllgorau.

 

PDF File Adran 5 : Cofrestr Buddiannau’r Aelodau a’r Swyddogion (PDF) – sy’n nodi meysydd a gweithgareddau llywodraethwyr a rheolwyr â chyfrifoldebau cyllidebol er mwyn atal unrhyw fuddiannau rhag gwrthdaro â busnes y Coleg.

 

s oes gan unrhyw ddarllenydd ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth ynglyn â materion llywodraethu neu sut i fod yn un o Lywodraethwyr y Coleg, cysylltwch â Raine Larcher, Clerc y Gorfforaeth, drwy ffonio 01639 648034 neu drwy e-bost ar raine.larcher@nptc.ac.uk

 

 

 

GovernanceGovernanceGovernance