DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
External Relations
Polisïau

Cysylltiadau Allanol

 

Cyflwyniad

Mae’r adran hon yn cwmpasu gwybodaeth sy’n ymwneud â pherthynas y sefydliad â’i amgylchedd allanol. Mae hyn yn cynnwys yr adroddiadau ffurfiol y mae’n ofynnol i’r sefydliad eu darparu ar gyfer ei gyrff cyllido, trefniadau gyda sefydliadau eraill, sut y mae’n rheoli ei berthynas â’r gymuned leol a sut y mae’n cadw mewn cysylltiad â’i gyn-staff a’i gyn-fyfyrwyr.

 

Oherwydd eu natur, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau yn ôl pob tebyg yn cael bod mwyafrif y dosbarthiadau hyn eisoes ar gael i’r cyhoedd mewn rhyw ffordd. Mae aelodau o’r cyhoedd hefyd yn debygol o gael bod yr un wybodaeth neu wybodaeth gysylltiedig ar gael gan y partneriaid allanol y mae gan y sefydliad gysylltiadau â nhw.

 

Lle bo’r rhain eisoes yn y parth cyhoeddus, dylid darparu dolenni gwe neu fanylion ynglŷn â sut y gellir eu cael.

 

8.1 Cyswllt â’r Gymuned

Disgrifiad:

Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys gwybodaeth am berthynas y sefydliad â’r gymuned leol. Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys o fewn y dosbarth hwn yn cynrychioli ymagwedd y sefydliad at gynnal a meithrin y berthynas honno.

 

8.2 Codi Arian

Disgrifiad:

Mae gwybodaeth sydd wedi’i chynnwys o fewn y dosbarth hwn yn ymwneud â’r gweithgareddau yr ymgymerwyd â nhw gan y sefydliad i godi refeniw yn ychwanegol at y refeniw a ddarparwyd gan ei brif gyrff cyllido. Enghreifftiau o’r math o wybodaeth yn y dosbarth hwn yw:

  • Taflenni Hyrwyddo Hyfforddiant Cymru
  • Prosbectws Hyfforddiant Pathways

8.3 Cysylltiadau â’r Llywodraeth a Rheolyddion

Disgrifiad:

Mae’r dosbarth hwn yn ymwneud â’r wybodaeth y mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y sefydliad i sicrhau ei bod ar gael i’w gyrff cyllido a/neu fonitro. Gall deunydd o’r fath ddarparu gwybodaeth ynglŷn â pha mor dda y mae’r sefydliad yn perfformio. Mae enghreifftiau o’r math o wybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnwys:

  • Adroddiadau / datganiadau i gynghorau cyllido, arolygiaethau, cyrff safonau, cynghorau ymchwil, cyrff proffesiynol, adrannau’r llywodraeth, ac ati.

Arolygiadau’r Swyddfa Safonau mewn Addysg (ar gyfer Addysg Bellach), Polisïau Ymarferion Asesu Ansawdd Addysgu ac Asesu Ymchwil (gweler hefyd Addysgu a Dysgu).

 

Gall fod nifer o’r rhain wedi’u cyhoeddi eisoes, ond efallai y bydd sefydliad yn dymuno darparu dolenni atynt yn yr achosion hyn.

 

8.4 Marchnata a Recriwtio

Disgrifiad:

Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys cyhoeddiadau sy’n ymwneud â recriwtio myfyrwyr (yn y DU ac yn Rhyngwladol), gan gynnwys prosbectws y coleg. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r profiad dysgu.

 

8.5 Cysylltiadau Cyhoeddus

Disgrifiad:

Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei chreu yn benodol gan y sefydliad er mwyn helpu i roi cyhoeddusrwydd i’w gyfleusterau a’i weithgareddau. Bydd y rhan fwyaf o wybodaeth o’r fath wedi’i chreu ar gyfer darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol, ond gall fod o gryn ddiddordeb hefyd i’r rheini sy’n dymuno gwybod mwy am yr hyn y gall y sefydliad ei gynnig a gweithgareddau ei fyfyrwyr a’i staff.